Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 30 Tachwedd 2023
Amser:
09.30 -
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13541
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Paul Davies AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Vikki Howells AS Samuel Kurtz AS Mike Hedges AS (yn lle Buffy Williams AS) |
Tystion: |
Harriet Barnes, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru Charlotte Brumpton-Childs, GMB Professor Pete Burnap, Wales Cyber Innovation Hub Dean Cook, Innovate UK Lewis Dean, Rhwydwaith Arloesi Cymru Alasdair McDiarmid, Community Union Peter Hughes, Unite Cymru Yr Athro Justin Lewis, Media Cymru Dan Shah, UK Research and Innovation Andy Silcox, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru Professor Roger Whitaker, Prifysgolion Cymru Amanda Wilkinson, Director, Universities Wales, Prifysgolion Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lara Date, Clerc Evan Jones, Dirprwy Glerc Ceri Thomas, Swyddog Cymorth y Pwyllgor Sara Moran, Ymchwilydd Lucy Morgan, Ymchwilydd Gareth Thomas, Ymchwilydd |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS a Hefin David AS. Roedd Mike Hedges AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Buffy Williams AS. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
2.1 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 a Chostau Byw
2.2 Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023
2.3 Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor: Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE
2.4 Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc
2.5 Protocol i Ddiwygio Cytundeb Marrakesh sy’n Sefydlu Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd
2.6 Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
2.7 Cynllun Cynefin Cymru
2.8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25
2.9 Cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
2.10Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023
2.11Y Bil Masnach (Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel)
3 Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Cyrff ariannu
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
4 Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Addysg uwch
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
4.3 Nododd Prifysgolion Cymru eu bod wedi gwneud rhywfaint o waith ar effaith economaidd a oedd yn edrych ar draws holl ranbarthau Cymru i lawr i’r lefel isranbarthol. Roedd y gwaith hwn yn dangos bod prifysgolion yn cael effaith hyd yn oed os nad ydynt wedi'u lleoli yn yr ardal dan sylw, a chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o fanylion am y gwaith.
5 Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Busnes
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn.
6 Dyfodol Dur yng Nghymru: Undebau Llafur
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ddyfodol dur yng Nghymru.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 o'r cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2023
7.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 o'r cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2023.
8 Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfarfod
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.